Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
32 Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. 2 A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch ataf fi. 3 A’r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a’u dygasant at Aaron. 4 Ac efe a’u cymerodd o’u dwylo, ac a’i lluniodd â chŷn, ac a’i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft. 5 A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gŵyl i’r Arglwydd yfory. 6 A hwy a godasant yn fore drannoeth, ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwarae.
7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft. 8 Buan y ciliasant o’r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft. 9 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt. 10 Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr. 11 A Moses a ymbiliodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft, trwy nerth mawr, a llaw gadarn? 12 Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl. 13 Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth. 14 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i’w bobl.
106 Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef? 3 Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser. 4 Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth. 5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth. 6 Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
19 Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd. 20 Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt. 21 Anghofiasant Dduw eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft; 22 Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch. 23 Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.
4 Am hynny, fy mrodyr annwyl a hoff, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd. 2 Yr ydwyf yn atolwg i Euodias, ac yn atolwg i Syntyche, synied yr un peth yn yr Arglwydd. 3 Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a’m cyd‐weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd. 4 Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch. 5 Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos. 6 Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw. 7 A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. 8 Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn. 9 Y rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch: a Duw’r heddwch a fydd gyda chwi.
22 A’r Iesu a atebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd, 2 Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab, 3 Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod. 4 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r briodas. 5 A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes, ac arall i’w fasnach: 6 A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hamharchasant, ac a’u lladdasant. 7 A phan glybu’r brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt. 8 Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. 9 Ewch gan hynny i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. 10 A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.
11 A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano: 12 Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. 13 Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 14 Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.