Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
106 Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef? 3 Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser. 4 Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth. 5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth. 6 Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
19 Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd. 20 Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt. 21 Anghofiasant Dduw eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft; 22 Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch. 23 Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.
9 Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel. 10 A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder. 11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwytasant ac yfasant.
4 Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw. 5 A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer, At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni? 6 Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. 7 Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych. 8 Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg. 9 Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. 10 Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.