Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
49 Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio. 50 Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i. 51 Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di. 52 Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais. 53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di. 54 Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod. 55 Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith. 56 Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.CHETH
5 A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur. 2 Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb. 3 Nid â’n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw. 4 Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân, 5 (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i’r mynydd,) gan ddywedyd,
6 Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi, yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 7 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. 8 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a’r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear: 9 Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; 10 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. 11 Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. 12 Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 13 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: 14 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ych, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun. 15 A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a’th ddwyn o’r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Saboth.
16 Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 17 Na ladd. 18 Ac na wna odineb. 19 Ac na ladrata. 20 Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. 21 Ac na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog, na’i faes, na’i was, na’i forwyn, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r y sydd eiddo dy gymydog.
4 At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr. 5 A chwithau, megis meini bywiol, ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. 6 Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a’r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir. 7 I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas: eithr i’r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl, 8 Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i’r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd; i’r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd. 9 Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau’r hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef: 10 Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.