Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
20 A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, 2 Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. 4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear.
7 Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. 8 Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. 9 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
12 Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 13 Na ladd. 14 Na wna odineb. 15 Na ladrata. 16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. 17 Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog.
18 A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr utgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell. 19 A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw. 20 A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
19 Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. 2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. 3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt. 4 Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt; 5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa. 6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef. 7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. 8 Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. 9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.
4 Ac er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy: 5 Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o’r Hebreaid; yn ôl y ddeddf yn Pharisead; 6 Yn ôl sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf, yn ddiargyhoedd. 7 Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist. 8 Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist, 9 Ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o’r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd: 10 Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef; 11 Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw: 12 Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu. 13 Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael: ond un peth, gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen, 14 Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu.
33 Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. 34 A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi. 35 A’r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant. 36 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd. 37 Ac yn ddiwethaf oll, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. 38 A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef. 39 Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. 40 Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwyr hynny? 41 Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo’r ffrwythau yn eu hamserau. 42 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni? 43 Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau. 44 A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw. 45 A phan glybu’r archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe. 46 Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.