Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
19 Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. 2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. 3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt. 4 Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt; 5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa. 6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef. 7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. 8 Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. 9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.
10 Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth: 11 A’r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta: a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olewydden. 12 Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: fel y caffo dy ych a’th asyn lonyddwch, ac y cymero mab dy forwyn gaeth, a’r dieithr ddyn, ei anadl ato. 13 Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch enw duwiau eraill; na chlywer hynny o’th enau.
40 Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd. 41 Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist? 42 Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod? 43 Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef. 44 A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno.
45 Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef? 46 A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. 47 Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd? 48 A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid? 49 Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt. 50 Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt, 51 A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth efe? 52 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.