Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.
42 Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. 2 Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw? 3 Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. 5 Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. 6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. 7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi, 8 Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes. 9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo’r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.
10 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad, 11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai. 12 A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw. 13 Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano’r utgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.
14 A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad. 15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd. 16 A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll. 17 A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant yng ngodre’r mynydd. 18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr. 19 Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a atebodd mewn llais. 20 A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny. 21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i’r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylltremu, a chwympo llawer ohonynt. 22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt. 23 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai: oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef. 24 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fyny at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy. 25 Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt.
2 Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau. 3 Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. 4 A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? 5 Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? 6 Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i’th dŷ. 7 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun. 8 A’r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.