Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Maschil i Asaff.
78 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. 2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: 3 Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. 4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.
12 Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan. 13 Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr. 14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân. 15 Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr. 16 Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
20 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi. 2 Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron. 3 Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd! 4 Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn, i farw ohonom ni a’n hanifeiliaid ynddo? 5 A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i’w yfed? 6 A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
7 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 8 Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid. 9 A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo. 10 A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr? 11 A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â’i wialen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.
12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt. 13 Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.
32 Ac yr ydym ni yn efengylu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hon i ni eu plant hwy, gan iddo atgyfodi’r Iesu: 33 Megis ag yr ysgrifennwyd yn yr ail Salm, Fy Mab i ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais. 34 Ac am iddo ei gyfodi ef o’r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd. 35 Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn Salm arall, Ni adewi i’th Sanct weled llygredigaeth. 36 Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth: 37 Eithr yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth. 38 Am hynny bydded hysbys i chwi, ha wŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau: 39 A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau y rhai ni allech trwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt. 40 Gwyliwch gan hynny na ddêl arnoch y peth a ddywedwyd yn y proffwydi; 41 Edrychwch, O ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.