Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:97-104

97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

NUN

Numeri 11:18-23

18 Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwytewch. 19 Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod; 20 Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu’r Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd Paham y daethom allan o’r Aifft? 21 A dywedodd Moses, Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau. 22 Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt? 23 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, A gwtogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.

Numeri 11:31-32

31 Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a’u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear. 32 Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.

Mathew 18:1-5

18 Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd? A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt; Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd. Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a’m derbyn i.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.