Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:97-104

97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

NUN

Numeri 11:1-9

11 A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a’i ddig a enynnodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwr y gwersyll. A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd; a’r tân a ddiffoddodd. Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy.

A’r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i’w fwyta? Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cennin, a’r winwyn, a’r garlleg: Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg. A’r manna hwnnw oedd fel had coriander, a’i liw fel lliw bdeliwm. Y bobl a aethant o amgylch, ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn melinau, neu a’i curasant mewn morter, ac a’i berwasant mewn peiriau, ac a’i gwnaethant yn deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew ir. A phan ddisgynnai’r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai’r manna arno ef.

Rhufeiniaid 16:17-20

17 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt. 18 Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg. 19 Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg. 20 A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.