Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.NUN
31 A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a’i flas fel afrllad o fêl.
32 A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Llanw omer ohono, i’w gadw i’ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aifft. 33 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i’ch cenedlaethau. 34 Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth. 35 A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan.
16 Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea: 2 Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd. 3 Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu; 4 Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd. 5 Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist. 6 Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni. 7 Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i. 8 Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd. 9 Anerchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. 10 Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus. 11 Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. 12 Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd. 13 Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau. 14 Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a’r brodyr sydd gyda hwynt. 15 Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt. 16 Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.