Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. 4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. 5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; 6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.
37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau. 38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy. 39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos. 40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a’u diwallodd â bara nefol. 41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd. 42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was. 43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd. 44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd. 45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
22 Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.
23 A phan ddaethant i Mara, ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara. 24 A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni? 25 Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a’i bwriodd i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt, 26 Ac a ddywedodd, Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i’w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddais ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di.
27 A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thrigain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.
13 Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair. 2 Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf: 3 Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi. 4 Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw trwy nerth Duw: canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.