Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
19 Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o’u hôl hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hôl hwynt. 20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos. 21 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd. 22 A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu deau, ac o’r tu aswy.
23 A’r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a’i gerbydau, a’r farchogion, i ganol y môr. 24 Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy’r golofn dân a’r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid. 25 Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.
26 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo’r dyfroedd ar yr Eifftiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion. 27 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth; a’r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr. 28 A’r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharo, y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i’r môr: ni adawyd ohonynt gymaint ag un. 29 Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy. 30 Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid: a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr. 31 A gwelodd Israel y grymuster mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Eifftiaid: a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i’r Arglwydd, ac i’w was ef Moses.
114 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith; 2 Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth. 3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl. 4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid. 5 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl? 6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid? 7 Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob: 8 Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.
15 Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a’i farchog i’r môr. 2 Fy nerth a’m cân yw yr Arglwydd; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddaf fi; Duw fy nhad, a mi a’i dyrchafaf ef. 3 Yr Arglwydd sydd ryfelwr: yr Arglwydd yw ei enw. 4 Efe a daflodd gerbydau Pharo a’i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch. 5 Y dyfnderau a’u toesant hwy; disgynasant i’r gwaelod fel carreg. 6 Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a’th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn. 7 Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a’u hysodd hwynt fel sofl. 8 Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr. 9 Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr ysbail: caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a’u difetha hwynt. 10 Ti a chwythaist â’th wynt; y môr a’u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion. 11 Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ymhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?
20 A Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, a gymerodd dympan yn ei llaw, a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi, â thympanau ac â dawnsiau. 21 A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a’r marchog i’r môr.
14 Yr hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch atoch, nid i ymrafaelion rhesymau. 2 Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail. 3 Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a’r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a’i derbyniodd ef. 4 Pwy wyt ti, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio: ac efe a gynhelir; canys fe a all Duw ei gynnal ef. 5 Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun. 6 Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta; i’r Arglwydd y mae yn bwyta; canys y mae yn diolch i Dduw: a’r hwn sydd heb fwyta, i’r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw. 7 Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun, ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun. 8 Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. 9 Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd. 10 Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist. 11 Canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd; pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw. 12 Felly gan hynny pob un ohonom drosto’i hun a rydd gyfrif i Dduw.
21 Yna y daeth Pedr ato ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith? 22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith; ond, Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith.
23 Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision. 24 A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau. 25 A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a chwbl a’r a feddai, a thalu’r ddyled. 26 A’r gwas a syrthiodd i lawr, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti’r cwbl oll. 27 Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a’i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo’r ddyled. 28 Ac wedi myned o’r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o’i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a’i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat. 29 Yna y syrthiodd ei gyd‐was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti’r cwbl oll. 30 Ac nis gwnâi efe; ond myned a’i fwrw ef yng ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. 31 A phan welodd ei gyd‐weision y pethau a wnaethid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a fuasai. 32 Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am iti ymbil â mi: 33 Ac oni ddylesit tithau drugarhau wrth dy gyd‐was, megis y trugarheais innau wrthyt ti? 34 A’i arglwydd a ddigiodd, ac a’i rhoddodd ef i’r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo. 35 Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.