Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
114 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith; 2 Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth. 3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl. 4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid. 5 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl? 6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid? 7 Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob: 8 Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.
14 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o flaen Baal‐seffon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrth y môr. 3 Canys dywed Pharo am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; caeodd yr anialwch arnynt. 4 A mi a galedaf galon Pharo, fel yr erlidio ar eu hôl hwynt: felly y’m gogoneddir ar Pharo, a’i holl fyddin; a’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.
5 A mynegwyd i frenin yr Aifft, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharo a’i weision yn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu? 6 Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymerodd ei bobl gydag ef. 7 A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aifft, a chapteiniaid ar bob un ohonynt. 8 A’r Arglwydd a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel. 9 A’r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharo, a’i wŷr meirch, a’i fyddin, ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, gerllaw Pihahiroth, o flaen Baal‐seffon.
10 A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd. 11 A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aifft? 12 Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Eifftiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu’r Eifftiaid, na marw yn yr anialwch.
13 A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny. 14 Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.
15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Paham y gwaeddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt. 16 A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych. 17 Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion. 18 A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw’r Arglwydd, pan y’m gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.
9 A’r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i’r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef, 10 Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ. 11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. 12 Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf. 13 A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo. 14 Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a’i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain. 15 Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft, ac a fu farw, efe a’n tadau hefyd. 16 A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.