Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 114

114 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith; Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth. Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl. Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid. Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl? Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid? Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob: Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.

Exodus 13:17-22

17 A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i’r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i’r Aifft. 18 Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft. 19 A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef: oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, Duw a ymwêl â chwi yn ddiau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi.

20 A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, yng nghwr yr anialwch. 21 A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nos. 22 Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na’r golofn dân y nos, o flaen y bobl.

1 Ioan 3:11-16

11 Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd. 12 Nid fel Cain, yr hwn oedd o’r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn dda. 13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw’r byd yn eich casáu chwi. 14 Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru’r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. 15 Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. 16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.