Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
121 Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth. 2 Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear. 3 Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad. 4 Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel. 5 Yr Arglwydd yw dy geidwad: yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw. 6 Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos. 7 Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid. 8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
14 A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn ŵyl i’r Arglwydd trwy eich cenedlaethau: cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol. 15 Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai: oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel. 16 Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwyty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur. 17 Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau, trwy ddeddf dragwyddol.
18 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o’r mis yn yr hwyr. 19 Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a’r priodor. 20 Na fwytewch ddim lefeinllyd: bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau.
21 A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg. 22 A chymerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o’r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore. 23 Oherwydd yr Arglwydd a dramwya i daro’r Eifftiaid: a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i’r drws, ac ni ad i’r dinistrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinistrio. 24 A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dragywydd. 25 A phan ddeloch i’r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn. 26 A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych? 27 Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant. 28 A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.
11 Anwylyd, yr wyf yn atolwg i chwi, megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid; 12 Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y gallont, oherwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. 13 Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad, oherwydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i’r brenin, megis goruchaf; 14 Ai i’r llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwgweithredwyr, a mawl i’r gweithredwyr da. 15 Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion: 16 Megis yn rhyddion, ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais, eithr fel gwasanaethwyr Duw. 17 Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.