Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
149 Molwch yr Arglwydd. Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint. 2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin. 3 Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn. 4 Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth. 5 Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau. 6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo; 7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd; 8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn; 9 I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft, tywyllwch a aller ei deimlo. 22 A Moses a estynnodd ei law tua’r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod. 23 Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.
24 A galwodd Pharo am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd; arhoed eich defaid, a’ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyda chwi. 25 A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoethoffrymau, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw. 26 Aed ein hanifeiliaid hefyd gyda ni; ni adewir ewin yn ôl: oblegid ohonynt y cymerwn i wasanaethu yr Arglwydd ein Duw: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.
27 Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pharo, ac ni fynnai eu gollwng hwynt. 28 A dywedodd Pharo wrtho, Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw. 29 A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.
15 A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus! 16 Eithr nid ufuddhasant hwy oll i’r efengyl: canys y mae Eseias yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? 17 Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. 18 Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a’u geiriau hyd derfynau y byd. 19 Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y’ch digiaf chwi. 20 Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf. 21 Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.