Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Cân neu Salm Asaff.
83 O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw. 2 Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau. 3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di. 4 Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
13 Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt. 14 Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd; 15 Felly erlid di hwynt â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt. 16 Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O Arglwydd. 17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt: 18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.
14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Caledodd calon Pharo; gwrthododd ollwng y bobl ymaith. 15 Dos at Pharo yn fore: wele efe a ddaw allan i’r dwfr; saf dithau ar lan yr afon erbyn ei ddyfod ef; a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff. 16 A dywed wrtho ef, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a’m hanfonodd atat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit. 17 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: wele, myfi â’r wialen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y troer hwynt yn waed. 18 A’r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw, a’r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Eifftiaid yfed dwfr o’r afon.
19 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Cymer dy wialen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aifft, ar eu ffrydiau, ar eu hafonydd, ac ar eu pyllau, ac ar eu holl lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft, yn eu llestri coed a cherrig hefyd. 20 A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchmynnodd yr Arglwydd: ac efe a gododd ei wialen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, yng ngŵydd Pharo, ac yng ngŵydd ei weision; a’r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a drowyd yn waed. 21 A’r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a’r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Eifftiaid yfed dwfr o’r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aifft. 22 A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharo, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd. 23 A Pharo a drodd ac a aeth i’w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon. 24 A’r holl Eifftiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i’w yfed; canys ni allent yfed o ddwfr yr afon. 25 A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i’r Arglwydd daro’r afon.
22 Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a’i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud. 23 A’r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd? 24 Eithr pan glybu’r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid. 25 A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. 26 Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef? 27 Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 28 Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch. 29 Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef. 30 Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.
31 Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion. 32 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.