Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Cân neu Salm Asaff.
83 O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw. 2 Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau. 3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di. 4 Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
13 Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt. 14 Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd; 15 Felly erlid di hwynt â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt. 16 Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O Arglwydd. 17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt: 18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.
5 Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont ŵyl i mi yn yr anialwch. 2 A dywedodd Pharo, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandawn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf. 3 A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gad i ni fyned, atolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf. 4 A dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i’r bobl beidio â’u gwaith? ewch at eich beichiau. 5 Pharo hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â’u llwythau. 6 A gorchmynnodd Pharo, y dydd hwnnw, i’r rhai oedd feistriaid gwaith ar y bobl, a’u swyddogion, gan ddywedyd, 7 Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur priddfeini, megis o’r blaen; elont a chasglant wellt iddynt eu hunain. 8 A rhifedi’r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt; na leihewch o hynny: canys segur ydynt; am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i’n Duw. 9 Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.
10 A meistriaid gwaith y bobl, a’u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharo, Ni roddaf wellt i chwi. 11 Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leiheir dim o’ch gwaith. 12 A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aifft, i gasglu sofl yn lle gwellt. 13 A’r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorffennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt. 14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy; a dywedwyd, Paham na orffenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddiw, megis cyn hynny?
15 Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â’th weision? 16 Gwellt ni roddir i’th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a’th bobl di dy hun sydd ar y bai. 17 Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i’r Arglwydd. 18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini. 19 A swyddogion meibion Israel a’u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihewch ddim o’ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.
20 A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharo: 21 A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i’n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo, a cherbron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni. 22 A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y’m hanfonaist? 23 Canys er pan ddeuthum at Pharo, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.
6 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyr efe hwynt o’i wlad. 2 Duw hefyd a lefarodd wrth Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH. 3 A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw Duw Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt. 4 Hefyd mi a sicrheais fy nghyfamod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi. 5 A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Eifftiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfamod. 6 Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid, ac a’ch rhyddhaf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion. 7 Hefyd mi a’ch cymeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid. 8 A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.
9 A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled. 10 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 11 Dos i mewn; dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad. 12 A Moses a lefarodd gerbron yr Arglwydd, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y’m gwrandawai Pharo, a minnau yn ddienwaededig o wefusau? 13 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharo brenin yr Aifft, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft.
7 Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd; 8 Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennyt ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw. 9 Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent; wele, meddaf, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di. 10 O achos cadw ohonot air fy amynedd i, minnau a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear. 11 Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di. 12 Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a’i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: ac mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Jerwsalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw i: ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i. 13 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.