Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 83:1-4

Cân neu Salm Asaff.

83 O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw. Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau. Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di. Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.

Salmau 83:13-18

13 Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt. 14 Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd; 15 Felly erlid di hwynt â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt. 16 Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O Arglwydd. 17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt: 18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.

Exodus 4:10-31

10 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf. 11 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr Arglwydd? 12 Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych. 13 Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda’r hwn a ddanfonych. 14 Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon. 15 Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda’th enau di, a chyda’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch. 16 A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau. 17 Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.

18 A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch. 19 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aifft; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes. 20 A Moses a gymerth ei wraig, a’i feibion, ac a’u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law. 21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl. 22 A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf‐anedig, yw Israel. 23 A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf‐anedig.

24 A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o’r Arglwydd ag ef, a cheisio ei ladd ef. 25 Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi. 26 A’r Arglwydd a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

27 A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw, ac a’i cusanodd ef. 28 A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd, yr hwn a’i hanfonasai ef, a’r arwyddion a orchmynasai efe iddo.

29 A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel. 30 Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl. 31 A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymasant, ac a addolasant.

Datguddiad 3:1-6

Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd â saith Ysbryd Duw a’r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt. Bydd wyliadwrus, a sicrha’r pethau sydd yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw. Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw, ac edifarha. Os tydi gan hynny ni wyli, mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr, ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat. Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt. Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad, a cherbron ei angylion ef. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.