Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. 4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. 5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; 6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.
23 Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham. 24 Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr. 25 Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision. 26 Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai.
45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
16 Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft. 17 A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl. 18 A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aifft, a dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, atolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.
19 A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn. 20 Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a drawaf yr Aifft â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith. 21 A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw; 22 Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cytal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a’u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a ysbeiliwch yr Eifftiaid.
7 Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith. 8 Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad: 9 Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau, 10 A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. 11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd: 12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.