Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 8

I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.

Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

Exodus 2:15-22

15 Pan glybu Pharo y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharo, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew. 16 Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad. 17 Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a’u gyrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a’u cynorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt. 18 Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddiw cyn gynted? 19 A hwy a ddywedasant, Eifftwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd. 20 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara. 21 A bu Moses fodlon i drigo gyda’r gŵr: ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses. 22 A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: Oherwydd dieithr (eb efe) a fûm i mewn gwlad ddieithr.

Mathew 26:6-13

Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 10 A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 11 Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser. 12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. 13 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.