Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
124 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr; 2 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn: 3 Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn: 4 Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid: 5 Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig. 6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt. 7 Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom. 8 Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
15 Pan welodd brodyr Joseff farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef. 16 A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd, 17 Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho. 18 A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti. 19 A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle Duw? 20 Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer. 21 Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
22 A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg. 23 Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff. 24 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob. 25 A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma. 26 A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i peraroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.
5 Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i’r lan arall, hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt.
6 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid. 7 A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymerasom fara gennym. 8 A’r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi? 9 Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny? 10 Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny? 11 Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid? 12 Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.