Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
130 O’r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd. 2 Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau. 3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif? 4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner. 5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf. 6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore. 7 Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef. 8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
16 A’r gair a ddaeth i dŷ Pharo, gan ddywedyd, Brodyr Joseff a ddaethant: a da oedd hyn yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei weision. 17 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan; 18 A chymerwch eich tad, a’ch teuluoedd, a deuwch ataf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aifft, a chewch fwyta braster y wlad. 19 Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymerwch i chwi o wlad yr Aifft gerbydau i’ch rhai bach, ac i’ch gwragedd; a chymerwch eich tad, a deuwch. 20 Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid da holl wlad yr Aifft sydd eiddo chwi. 21 A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Joseff iddynt hwy gerbydau, yn ôl gorchymyn Pharo, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd. 22 I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad. 23 Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd. 24 Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.
25 Felly yr aethant i fyny o’r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob; 26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu. 27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseff, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseff i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd ysbryd Jacob eu tad hwynt. 28 A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseff fy mab eto yn fyw: af, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.
8 Ac wedi ei ddyfod ef i waered o’r mynydd, torfeydd lawer a’i canlynasant ef. 2 Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i. 3 A’r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd. 4 A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
5 Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno, 6 A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen ddirfawr. 7 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a’i hiachâf ef. 8 A’r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a’m gwas a iacheir. 9 Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 10 A’r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd: 12 Ond plant y deyrnas a deflir i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 13 A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A’i was a iachawyd yn yr awr honno.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.