Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 133

Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

133 Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef: Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.

Genesis 42:1-28

42 Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd? Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aifft: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno; fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.

A deg brawd Joseff a aethant i waered, i brynu ŷd, i’r Aifft. Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda’i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef. A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod; oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan. A Joseff oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseff a ddaethant, ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau. A Joseff a ganfu ei frodyr, ac a’u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth. A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef. A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy; ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch. 10 Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth. 11 Nyni oll ydym feibion un gŵr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr. 12 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nage; ond i edrych noethder y wlad y daethoch. 13 Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeg brawd, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni, a’r llall nid yw fyw. 14 A Joseff a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais, wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi. 15 Wrth hyn y’ch profir: Myn einioes Pharo, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma. 16 Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid e, myn einioes Pharo, ysbïwyr yn ddiau ydych chwi. 17 As efe a’u rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau. 18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseff wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi. 19 Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i’ch tylwyth. 20 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi: felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.

21 Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni. 22 A Reuben a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod; ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef. 23 Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt. 24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd; ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o’u mysg hwynt Simeon, ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

25 Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i’w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy. 26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno. 27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef. 28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?

Mathew 14:34-36

34 Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret. 35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl; 36 Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.