Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
28 Arnat ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll. 2 Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd. 3 Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon. 4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau. 5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt. 6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau. 7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. 8 Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe. 9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
29 A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad; 30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llanc nid yw acw; a minnau, i ba le yr af fi? 31 A hwy a gymerasant siaced Joseff, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siaced yn y gwaed. 32 Ac a anfonasant y siaced fraith, ac a’i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siaced dy fab yw hi, ai nad e. 33 Yntau a’i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siaced fy mab yw hi; bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseff. 34 A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer. 35 A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd amdano ef. 36 A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aifft, i Potiffar tywysog Pharo, a’r distain.
4 Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i’w cadw i farnedigaeth; 5 Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir; 6 A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a’u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i’r rhai a fyddent yn annuwiol; 7 Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid: 8 (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:) 9 Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i’w poeni: 10 Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas:
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.