Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. 4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. 5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; 6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.
16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara. 17 Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was. 18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn: 19 Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr Arglwydd a’i profodd ef. 20 Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a’i rhyddhaodd ef. 21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth: 22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef.
45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
5 A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef eto yn ychwaneg. 6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i. 7 Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele, fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i’m hysgub i. 8 A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.
9 Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi. 10 Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti? 11 A’i frodyr a genfigenasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.
16 Ac wedi i’r Phariseaid a’r Sadwceaid ddyfod ato, a’i demtio, hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef. 2 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo’r hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae’r wybr yn goch. 3 A’r bore, Heddiw drycin; canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau? 4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.