Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. 4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. 5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; 6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.
16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara. 17 Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was. 18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn: 19 Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr Arglwydd a’i profodd ef. 20 Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a’i rhyddhaodd ef. 21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth: 22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef.
45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg: 23 Meibion Lea; Reuben, cyntaf‐anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon. 24 Meibion Rahel; Joseff a Benjamin. 25 A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali. 26 A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.
27 A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer‐Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac. 28 A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd. 29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, a’i claddasant ef.
10 A’r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon. 11 Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly. 12 Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig. 13 A phan wybu’r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi’r dyrfa. 14 Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i’r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno. 15 A chyfarwyddwyr Paul a’i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.