Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.
15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
43 Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt. 2 Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tân, ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat. 3 Canys myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat. 4 Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di. 5 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf. 6 Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a’m merched o eithaf y ddaear; 7 Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.
32 A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd. 33 A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint? 34 A’r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. 35 Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear. 36 A chan gymryd y saith dorth, a’r pysgod, a diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’r disgyblion i’r dyrfa. 37 A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn. 38 A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 39 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.