Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.
15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
22 A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob. 23 Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a’i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead. 24 A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg.
25 Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â’i frodyr ym mynydd Gilead. 26 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf. 27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladrateaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn? 28 Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffôl, gan wneuthur hyn. 29 Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg. 30 Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladrateaist fy nuwiau i? 31 A Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Am ofni ohonof; oblegid dywedais, Rhag dwyn ohonot dy ferched oddi arnaf trwy drais. 32 Gyda’r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o’r eiddot ti sydd gyda myfi, a chymer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a’u lladratasai hwynt. 33 A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac nis cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel. 34 A Rahel a gymerasai’r delwau, ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban a chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd. 35 A hi a ddywedodd wrth ei thad, Na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd, ac ni chafodd y delwau.
36 A Jacob a ddigiodd, ac a roes sen i Laban: a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid ohonot ar fy ôl? 37 Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a’th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau. 38 Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwyteais hyrddod dy braidd. 39 Ni ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a’i gwnawn ef yn dda; o’m llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a’r hyn a ladrateid y nos. 40 Bûm y dydd, y gwres a’m treuliodd, a rhew y nos; a’m cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid. 41 Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau. 42 Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a’th geryddodd di neithiwr.
8 Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd. 9 Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau, 10 Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi. 11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y’ch cadarnhaer: 12 A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. 13 Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill. 14 Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. 15 Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.