Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.
15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
31 Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i’n tad ni, ac o’r hyn ydoedd i’n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn. 2 Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban, ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt. 3 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyda thi. 4 A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i’r maes, at ei braidd, 5 Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tuag ataf fi: a Duw fy nhad a fu gyda myfi. 6 A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad. 7 A’ch tad a’m twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond ni ddioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg. 8 Os fel hyn y dywedai; Y mân‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân‐frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch‐frithion. 9 Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a’u rhoddes i mi. 10 Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, ddyrchafu ohonof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llamu’r praidd,) yn glych‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion. 11 Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a atebais, Wele fi. 12 Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu’r praidd yn gylch‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti. 13 Myfi yw Duw Bethel, lle yr eneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun. 14 A Rahel a Lea a atebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes eto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad? 15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a’n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni. 16 Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni, nyni a’n plant a’i piau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt, gwna.
17 Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a’i wragedd ar gamelod; 18 Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a’i holl gyfoeth yr hwn a enillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan. 19 Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai’r delwau oedd gan ei thad hi. 20 A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd. 21 Felly y ffodd efe â’r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.
7 Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: 8 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 9 Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.