Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.
15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
8 Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. 9 Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais.
10 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy Dduw: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder.
6 Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym: canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel. 7 Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had. 8 Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. 9 Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara. 10 Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o’n tad Isaac; 11 (Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd yn galw;) 12 Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf. 13 Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.