Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 65:8-13

A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu. Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. 10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. 11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. 12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. 13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.

Genesis 30:25-36

25 A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseff, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun. 26 Dyro fy ngwragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti. 27 A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i o’th blegid di. 28 Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a’i rhoddaf. 29 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi. 30 Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd; oherwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun? 31 Dywedodd yntau, Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a atebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn. 32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw, gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân‐frith a mawr‐frith, a phob llwdn cochddu ymhlith y defaid; y mawr‐frith hefyd a’r mân‐frith ymhlith y geifr: ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog. 33 A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân‐frith neu fawr‐frith ymhlith y geifr, neu gochddu ymhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyda myfi. 34 A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ôl dy air di! 35 Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch‐frithion a mawr‐frithion, a’r holl eifr mân‐frithion a mawr‐frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun. 36 Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.

Iago 3:13-18

13 Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb. 14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd. 15 Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw. 16 Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg. 17 Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. 18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.