Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
15 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y’m gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog? 16 Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel. 17 A llygaid Lea oedd weiniaid; ond Rahel oedd deg ei phryd, a glandeg yr olwg. 18 A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf. 19 A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na’i rhoddi i ŵr arall: aros gyda mi. 20 Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.
21 A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf ati hi. 22 A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd. 23 Ond bu yn yr hwyr, iddo gymryd Lea ei ferch, a’i dwyn hi ato ef; ac yntau a aeth ati hi. 24 A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch. 25 A bu, y bore, wele Lea oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y’th wasanaethais? a phaham y’m twyllaist? 26 A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf. 27 Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill. 28 A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.
105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. 4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. 5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; 6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. 7 Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. 8 Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: 9 Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac; 10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; 11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
Caniad y graddau.
128 Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef. 2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti. 3 Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford. 4 Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd. 5 Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes. 6 A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.
26 A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 27 A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. 28 Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. 29 Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer. 30 A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. 31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? 32 Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; 33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: 34 Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. 35 Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? 36 Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. 37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. 38 Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, 39 Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
31 Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes: 32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.
33 Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.
44 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd, ac yn prynu’r maes hwnnw.
45 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg: 46 Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef.
47 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth: 48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i’r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg. 49 Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, 50 Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 51 Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd. 52 A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor bethau newydd a hen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.