Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. 4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. 5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; 6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. 7 Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. 8 Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: 9 Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac; 10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; 11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
31 A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy. 32 A Lea a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: oherwydd hi a ddywedodd, Diau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngŵr a’m hoffa i. 33 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi; am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon. 34 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngŵr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi. 35 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei enw ef Jwda. A hi a beidiodd â phlanta.
30 Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi; ac onid e mi a fyddaf farw. 2 A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel; ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle Duw, yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti? 3 A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi. 4 A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati. 5 A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob. 6 A Rahel a ddywedodd, Duw a’m barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan. 7 Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob. 8 A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali. 9 Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta, hi a gymerth ei llawforwyn Silpa, ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob. 10 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg fab i Jacob. 11 A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad. 12 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob. 13 A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.
14 Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a’u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab. 15 Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab. 16 A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno. 17 A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob. 18 A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i’m gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar. 19 Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob. 20 A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynhysgaeth dda; fy ngŵr a drig weithian gyda mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Sabulon. 21 Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.
22 A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi. 23 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith. 24 A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.
38 Yna yr atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt. 39 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas: 40 Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear. 41 Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma. 42 Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.