Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 139:13-18

13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

Genesis 35:16-29

16 A hwy a aethant ymaith o Bethel; ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor. 17 A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i’r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab. 18 Darfu hefyd, wrth ymadael o’i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben‐oni: ond ei dad a’i henwodd ef Benjamin. 19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem. 20 A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw. 21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal‐Edar. 22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg: 23 Meibion Lea; Reuben, cyntaf‐anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon. 24 Meibion Rahel; Joseff a Benjamin. 25 A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali. 26 A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.

27 A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer‐Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac. 28 A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd. 29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, a’i claddasant ef.

Mathew 12:15-21

15 A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt oll; 16 Ac a orchmynnodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd: 17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, 18 Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i’r Cenhedloedd. 19 Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. 20 Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 21 Ac yn ei enw ef y gobeithia’r Cenhedloedd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.