Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 139:13-18

13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

Genesis 32:3-21

A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom: Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyda Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn. Ac y mae i mi eidionau, ac asynnod, defaid, a gweision, a morynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.

A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gydag ef. Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef, a’r defaid, a’r eidionau, a’r camelod, yn ddwy fintai; Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddihangol.

A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti! 10 Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was: oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai. 11 Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a’m taro, a’r fam gyda’r plant. 12 A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.

13 Ac yno y lletyodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth i’w law ef y cymerth efe anrheg i’w frawd Esau; 14 Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod, 15 Deg ar hugain o gamelod blithion a’u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asennod, a deg o ebolion. 16 Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o’r neilltu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a’i gilydd. 17 Ac efe a orchmynnodd i’r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o’th flaen di? 18 Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hôl ni. 19 Felly y gorchmynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno. 20 A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hôl ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau. 21 Felly yr anrheg a aeth trosodd o’i flaen ef: ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll.

Datguddiad 14:12-20

12 Yma y mae amynedd y saint: yma y mae’r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, a ffydd Iesu. 13 Ac mi a glywais lef o’r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur; a’u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt. 14 Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym. 15 Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear. 16 A’r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear; a’r ddaear a fedwyd. 17 Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman llym. 18 Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân; ac a lefodd â bloedd uchel ar yr hwn oedd â’r cryman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy gryman llym, a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear: oblegid aeddfedodd ei grawn hi. 19 A’r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a’i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw. 20 A’r gerwyn a sathrwyd o’r tu allan i’r ddinas; a gwaed a ddaeth allan o’r gerwyn, hyd at ffrwynau’r meirch, ar hyd mil a chwe chant o ystadau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.