Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 139:1-12

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi. I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd? Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno. Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr: 10 Yno hefyd y’m tywysai dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw. 11 Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch. 12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.

Salmau 139:23-24

23 Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau; 24 A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.

Exodus 14:9-25

A’r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharo, a’i wŷr meirch, a’i fyddin, ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, gerllaw Pihahiroth, o flaen Baal‐seffon.

10 A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd. 11 A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aifft? 12 Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Eifftiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu’r Eifftiaid, na marw yn yr anialwch.

13 A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny. 14 Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.

15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Paham y gwaeddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt. 16 A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych. 17 Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion. 18 A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw’r Arglwydd, pan y’m gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

19 Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o’u hôl hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hôl hwynt. 20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos. 21 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd. 22 A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu deau, ac o’r tu aswy.

23 A’r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a’i gerbydau, a’r farchogion, i ganol y môr. 24 Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy’r golofn dân a’r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid. 25 Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.

Mathew 7:15-20

15 Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. 16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 17 Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. 19 Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 20 Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.