Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. 2 Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. 3 Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. 4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. 5 Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. 6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi. 7 I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd? 8 Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno. 9 Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr: 10 Yno hefyd y’m tywysai dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw. 11 Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch. 12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
23 Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau; 24 A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.
21 A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a’r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a’m llaw yr hon a osodais arnynt. 22 A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o’r dydd hwnnw allan.
23 Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf. 24 Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum â hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt. 25 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd; 26 Wedi dwyn ohonynt eu gwaradwydd, a’u holl gamweddau a wnaethant i’m herbyn, pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynydd. 27 Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a’u casglu hwynt o wledydd eu gelynion, ac y’m sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer; 28 Yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, yr hwn a’u caethgludais hwynt ymysg y cenhedloedd, ac a’u cesglais hwynt i’w tir eu hun, ac ni adewais mwy un ohonynt yno. 29 Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt: oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
13 Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun, 14 Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf. 15 Ac felly, wedi iddo hirymaros, efe a gafodd yr addewid. 16 Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson. 17 Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd trwy lw: 18 Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen; 19 Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen; 20 I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.