Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof.
142 Gwaeddais â’m llef ar yr Arglwydd; â’m llef yr ymbiliais â’r Arglwydd. 2 Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef. 3 Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl. 4 Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid. 5 Llefais arnat, O Arglwydd; a dywedais, Ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw. 6 Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi. 7 Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.
1 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem. 2 Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr Arglwydd Dduw yn dyst i’ch erbyn, yr Arglwydd o’i deml sanctaidd. 3 Canys wele yr Arglwydd yn dyfod o’i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear. 4 A’r mynyddoedd a doddant tano ef, a’r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered. 5 Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem?
4 Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy. 2 Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu. 3 Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb: 4 Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch; 5 Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: 6 Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw’r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o’r blaen, ac y tystiasom. 7 Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd. 8 Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.