Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
105 Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr. 106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder. 107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O Arglwydd, yn ôl dy air. 108 Atolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau. 109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith. 110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion. 111 Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt. 112 Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.SAMECH
32 Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau. 2 Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt. 3 Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i’n Duw ni. 4 Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe. 5 Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef. 6 Ai hyn a delwch i’r Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a’th brynwr? onid efe a’th wnaeth, ac a’th sicrhaodd?
7 Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i’th dad, ac efe a fynega i ti; i’th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt. 8 Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel. 9 Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef. 10 Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag erchyll:arweinioddef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad.
14 Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd. 15 Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw; 16 Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. 17 Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw. 18 Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred, 19 Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist. 20 Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl, nid lle yr enwid Crist: fel nad adeiladwn ar sail un arall: 21 Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I’r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt‐hwy a’i gwelant ef; a’r rhai ni chlywsant, a ddeallant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.