Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
105 Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr. 106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder. 107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O Arglwydd, yn ôl dy air. 108 Atolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau. 109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith. 110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion. 111 Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt. 112 Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.SAMECH
3 A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd Duw, Horeb. 2 Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa. 3 A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw’r berth wedi llosgi. 4 Pan welodd yr Arglwydd ei fod efe yn troi i edrych, Duw a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi. 5 Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: diosg dy esgidiau oddi am dy draed; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd. 6 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar Dduw.
12 Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf; 13 (Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir. 14 Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain: 15 Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;) 16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.