Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
8 Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau. 9 Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt. 10 Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth: 11 Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith; 12 Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad; 13 Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a’r gwinwydd â’u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.
29 A Jacob a gymerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain. 2 Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau’r pydew. 3 Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau’r pydew, ac a ddyfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau’r pydew yn ei lle. 4 A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni. 5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom. 6 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda’r defaid. 7 Yna y dywedodd efe, Wele eto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu’r anifeiliaid dyfrhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch. 8 A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd, a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhawn y praidd.
9 Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyda’r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio. 10 A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob, ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau’r pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam. 11 A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. 12 A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeca oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i’w thad. 13 A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn. 14 A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddiau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.
3 Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad? 2 Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw. 3 Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? 4 Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner. 5 Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;) 6 Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd? 7 Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur? 8 Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.