Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
8 Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau. 9 Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt. 10 Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth: 11 Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith; 12 Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad; 13 Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a’r gwinwydd â’u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.
30 A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o’i hela. 31 Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a’i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwytaed o helfa ei fab, fel y’m bendithio dy enaid. 32 Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf‐anedig Esau. 33 Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a’i dug i mi, a mi a fwyteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac a’i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe. 34 Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ie finnau, fy nhad. 35 Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di. 36 Dywedodd yntau, Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: dug fy ngenedigaeth‐fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyda thi fendith i minnau? 37 Ac Isaac a atebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; ag ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnaf i tithau, fy mab, weithian? 38 Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. 39 Yna yr atebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mraster y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ymysg gwlith y nefoedd oddi uchod; 40 Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.
41 Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesáu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd. 42 A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di, ar fedr dy ladd di. 43 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran; 44 Ac aros gydag ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd; 45 Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd? 46 Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes oherwydd merched Heth: os cymer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwenychwn fy einioes?
18 Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. 19 Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt. 20 Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus: 21 Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd. 22 Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; 23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. 24 O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain: 25 Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.