Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 24:34-38

34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi. 35 A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod. 36 Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo. 37 A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir. 38 Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i’m mab.

Genesis 24:42-49

42 A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni: 43 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, atolwg, ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên; 44 Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr. 45 A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeca yn dyfod allan, a’i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dioda fi, atolwg. 46 Hithau a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd. 47 A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylo hi: 48 Ac a ymgrymais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i’w fab ef. 49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr, mynegwch i mi: ac onid e, mynegwch i mi; fel y trowyf ar y llaw ddeau, neu ar y llaw aswy.

Genesis 24:58-67

58 A hwy a alwasant ar Rebeca, a dywedasant wrthi, A ei di gyda’r gŵr hwn? A hi a ddywedodd, Af. 59 A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer, a’i mamaeth, a gwas Abraham, a’i ddynion; 60 Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.

61 Yna y cododd Rebeca, a’i llancesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ôl y gŵr; a’r gwas a gymerodd Rebeca, ac a aeth ymaith. 62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai‐roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau. 63 Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod. 64 Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel. 65 Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? A’r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd. 66 A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe. 67 Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a’i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.

Salmau 45:10-17

10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad. 11 A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef. 12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb. 13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi. 14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti. 15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin. 16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir. 17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.

Caniad Solomon 2:8-13

Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau. Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt. 10 Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth: 11 Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith; 12 Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad; 13 Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a’r gwinwydd â’u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.

Rhufeiniaid 7:15-25

15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. 16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw. 17 Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. 18 Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau’r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno. 19 Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. 20 Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi. 21 Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg yn bresennol gyda mi. 22 Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw, yn ôl y dyn oddi mewn: 23 Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. 24 Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon? 25 Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly gan hynny, yr wyf fi fy hun â’r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â’r cnawd, cyfraith pechod.

Mathew 11:16-19

16 Eithr i ba beth y cyffelybaf fi’r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion, 17 Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch. 18 Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo. 19 Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.

Mathew 11:25-30

25 Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: 26 Ie, O Dad; canys felly y rhyngodd fodd i ti. 27 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.

28 Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch. 29 Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau: 30 Canys fy iau sydd esmwyth, a’m baich sydd ysgafn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.