Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad. 11 A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef. 12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb. 13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi. 14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti. 15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin. 16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir. 17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.
18 Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab? 19 A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf‐anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o’m helfa, fel y’m bendithio dy enaid. 20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan â hyn? Yntau a ddywedodd, Am i’r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o’m blaen. 21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nes yn awr, fel y’th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e. 22 A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a’i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a’r dwylo, dwylo Esau ydynt. 23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a’i bendithiodd ef. 24 Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw. 25 Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nes ataf fi, a mi a fwytâf o helfa fy mab, fel y’th fendithio fy enaid. Yna y dug ato ef, ac efe a fwytaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd. 26 Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nes yn awr, a chusana fi, fy mab. 27 Yna y daeth efe yn nes, ac a’i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd. 28 A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin: 29 Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam i ti: melltigedig fyddo a’th felltithio, a bendigedig a’th fendithio.
21 Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr ysbryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di. 22 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab, ond y Tad; na phwy yw’r Tad, ond y Mab, a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo.
23 Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o’r neilltu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled: 24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.