Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad. 11 A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef. 12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb. 13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi. 14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti. 15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin. 16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir. 17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.
19 A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac. 20 Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo. 21 Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd. 22 A’r plant a ymwthiasant â’i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â’r Arglwydd. 23 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
24 A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi. 25 A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau. 26 Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt. 27 A’r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o’r maes; a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll.
7 Oni wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd,) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw? 2 Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr. 3 Ac felly, os a’r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall. 4 Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i’r ddeddf trwy gorff Crist; fel y byddech eiddo un arall, sef eiddo’r hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw. 5 Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy’r ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth. 6 Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf, wedi ein meirw i’r peth y’n hatelid; fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb ysbryd, ac nid yn hender y llythyren.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.