Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 22:1-14

22 Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. Yna y dywedodd Duw, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho. Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai’r lle o hirbell. Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda’r asyn; a mi a’r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch. Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd. A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poethoffrwm? Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd: Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed. 10 Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab; 11 Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 12 Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi. 13 Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab. 14 Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH‐jire; fel y dywedir heddiw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.

Salmau 13

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

13 Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof? Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf? Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau: Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf. Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r Arglwydd, am iddo synio arnaf.

Rhufeiniaid 6:12-23

12 Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau. 13 Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw. 14 Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras. 15 Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddeddf, eithr dan ras? Na ato Duw. 16 Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd‐dod i gyfiawnder? 17 Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi. 18 Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder. 19 Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd. 20 Canys pan oeddech yn weision pechod, rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawnder. 21 Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o’u plegid? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth. 22 Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. 23 Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Mathew 10:40-42

40 Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 41 Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. 42 A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.