Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
13 Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof? 2 Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf? 3 Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau: 4 Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf. 5 Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r Arglwydd, am iddo synio arnaf.
23 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Beer‐seba. 24 A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad di: nac ofna; canys byddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf, ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas. 25 Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.
17 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddêl rhwystrau: ond gwae efe trwy’r hwn y deuant! 2 Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a’i daflu i’r môr, nag iddo rwystro un o’r rhai bychain hyn.
3 Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarha efe, maddau iddo. 4 Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi atat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddau iddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.