Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
11 Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw. 12 Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd. 13 Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod. 14 Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O Dduw, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron. 15 Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd. 16 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch. 17 Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a’m diddanu.
12 A dyma genedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes, morwyn Sara, i Abraham. 13 A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenedlaethau: Nebaioth cyntaf‐anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam, 14 Misma hefyd, a Duma, a Massa, 15 Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema. 16 Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd. 17 A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl. 18 Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
8 Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd; 9 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan. 10 Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. 11 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.