Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Dafydd.
86 Gostwng, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf. 2 Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot. 3 Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd. 4 Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 5 Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat. 6 Clyw, Arglwydd, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil. 7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi. 8 Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O Arglwydd; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di. 9 Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw. 10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt Dduw.
3 Llefara, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, Pharo brenin yr Aifft, y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, Eiddof fi yw fy afon, a mi a’i gwneuthum hi i mi fy hun. 4 Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau. 5 A mi a’th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd: syrthi ar wyneb y maes, ni’th gesglir, ac ni’th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y’th roddais yn ymborth. 6 A holl drigolion yr Aifft a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, am iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel. 7 Pan ymaflasant ynot erbyn dy law, ti a dorraist, ac a rwygaist eu holl ysgwydd: a phan bwysasant arnat, ti a dorraist, ac a wnaethost i’w holl arennau sefyll.
53 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn daer iawn arno, a’i annog i ymadrodd am lawer o bethau; 54 Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o’i ben ef, i gael achwyn arno.
12 Yn y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. 2 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nis gwybyddir. 3 Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.